Datblygwyd llinell amser ryngweithiol Y Bywgraffiadur Cymreig gan Histropedia ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chyllid grant gan y My-D Foundation.
Gyrrir y llinell amser gan ddata agored cysylltiedig a chynnwys agored sy’n dod o brosiectau Wikimedia. Mae hyn yn caniatáu inni gynnig ffordd weledol a rhyngweithiol i'n defnyddwyr i archwilio cynnwys y Bywgraffiadur Cymreig.
Mae llawer o'r data, a'r delweddau a ddefnyddiwyd wedi'u rhannu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ond mae'r llinell amser hefyd yn defnyddio data a delweddau a rennir gan sefydliadau ac unigolion eraill. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y data hwn ni allwn warantu ansawdd yr holl ddata a ddefnyddir.
Dim ond unigolion y gwyddom eu dyddiad geni neu farwolaeth a gynhwysir yn y llinell amser. Nid yw'r llinell amser yn cynnwys cofnodion ar gyfer pobl heb ddyddiadau hysbys ac nid yw'n cynnwys cofnodion ar gyfer teuluoedd na grwpiau. Defnyddiwch wefan Y Bywgraffiadur Cymreig er mwyn chwilio holl gofnodion y Bywgraffiadur.
Mae'r wefan hon yn ffynhonnell agored. Cewch fynediad i'r cod trwy Github.